Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi cyhoeddi bod yr ail glaf yng Nghymru wedi marw ar ôl cael ei heintio gyda’r coronafeirws.

“Roedd y claf, oedd â chyflyrau iechyd blaenorol, yn 96 oed ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys,” meddai Dr Frank Athron.

“Rwy’n cydymdeimlo’n ddidwyll â’r teulu a chyfeillion ac yn gofyn fod eu cais am breifatrwydd yn cael ei barchu.”

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r claf cyntaf yng Nghymru wedi marw o’r coronafeirws.

Roedd y claf 68 oed yn cael triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.