Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi galw am gau meysydd carafanau a safleoedd gwersylla yn sgil bygythiad y coronafeirws.

Fyddai’r Gwasanaeth Iechyd lleol ddim yn gallu delio â mewnlifiad o ddioddefwyr posib, yn ôl y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog.

“Mae meysydd carafanau a safleoedd gwersylla’r Sir, sydd yn agored o Fis Mawrth tan fis Hydref yn treblu’r boblogaeth mwy neu lai,” meddai.

“Byddai cau’r meysydd carafanau a’r safleoedd gwersylla’n torri ar filoedd o deithiau dianghenraid i’r ardal ac o ganlyniad yn atal y Feirws Corona rhag lledaenu’n ddiangen.”

Mae Alwyn Gruffydd yn credu y byddai perchnogion y meysydd carafanau a safleoedd gwersylla’n gwerthfawrogi mesur o’r fath, ac mae’n gobeithio na fyddai’n rhaid iddo bara’n hir.

Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud bod “iechyd cyhoeddus flaenaf yn ein meddyliau ar adeg mor anodd”.

“Mae’n rhaid i bob un ohonom aberthu rhywbeth, ariannol neu beidio, er lles pawb,” meddai wedyn.