Mae rhybuddion y gallai’r diwydiant lletygarwch ddod i ben os na ddaw cymorth gan Lywodraeth Prydain yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae perchnogion tafarndai a bwytai yn galw am weithredu ar unwaith i gefnogi’r diwydiant yn ariannol, ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gynghori pobol ddoe (dydd Llun, Mawrth 16) i beidio â mynd allan.
Mae Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain wedi ysgrifennu ato yn mynnu bod camau brys yn cael eu cymryd i osgoi golli swyddi ar raddfa anferth a chau tafarndai am byth.
“Mae’r diwydiant tafarndai a bragu yn wynebu argyfwng andwyol o ganlyniad i’r canllawiau gyhoeddwyd heddiw gan y Llywodraeth,” meddai Emma McClarkin, prif weithredwr y gymdeithas, yn dilyn y cyhoeddiad.
“Byddwn yn gweld colli miloedd o dafarndai a channoedd o filoedd o swyddi yn y tymor byr os nad oes pecyn gweithredol o greu arian a chyllid yn cael ei ddarparu ar unwaith i’r diwydiant.”
Llythyr
Mae’r llythyr yn galw ar i’r Llywodraeth
- Ohirio’r raddfa busnes am chwe mis
- Cynnig taliadau treth gan gynnwys PAYE, TAW a’r dreth gorfforaethol
- Gohirio taliadau gwasanaeth cwrw am chwe mis
- Oedi ar godi isafswm cyflogau ym mis Ebrill
“Alla i ddim pwysleisio digon pa mor hanfodol yw gweithredu’n syth,” meddai Emma McClarkin.
“Byddai methu â gwneud yn lladd y diwydiant.”
Dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan ar Good Morning Britain y bore yma;
“Beth sydd angen i’r Llywodraeth ei wneud yw un o ddau beth- unai ei gwneud yn cliriach neu gadarnhau mai gwaharddiad ydi e fel bod y busnesau yma yn gallu hawlio yswiriant, neu gwneud yn siŵr fod y busnesau yn cael rhyw fath o gymorth pe bai hynny yn ariannol, gyda graddfeydd, rhent, neu daliadau,” meddai Sadiq Khan.
“Beth ddylai’r llywodraeth fod yn ei wneud nawr ydi beth mae Macron yn ei wneud, y pethau mae Trudeau yn eu gwneud, y pethau mae Merkel yn eu gwneud nawr.”