Mae mwy na 650 o bobl o wledydd Prydain sydd wedi bod ar long bleser, lle mae nifer o westeion yn dioddef o’r Coronafeirws, wedi dechrau teithio i Ciwba lle fyddan nhw’n cael hedfan yn ôl i’r Deyrnas Unedig.

Fe fu’r Swyddfa Dramor yn cynnal trafodaethau gyda chwmni Fred Olsen Cruise Lines, sy’n berchen y llong bleser Braemar, lle mae 22 o westeion a 21 o aelodau’r criw wedi ynysu eu hunain ar ol cael symptomau’r firws. Mae pump ohonyn nhw wedi cael prawf positif am Covid-19.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n gweithio “bob awr o’r dydd” er mwyn trefnu hediadau o Giwba mor fuan â phosib.

Roedd capten y llong wedi dechrau’r daith i Ciwba am 9yb amser lleol.

Dywedodd cwmni Fred Olsen eu bod yn cydweithio gyda’r Swyddfa Dramor i geisio cadarnhau manylion y trefniadau teithio nôl i Brydain.

Roedd rhagor o staff meddygol a nwyddau wedi cael eu cludo i’r Braemar nos Sul (Mawrth 15) ar ôl angori yn y Bahamas. Mae 667 o bobl o wledydd Prydain ar y llong.