Gallai gwyddonwyr yn Llundain a Paris greu brechlyn ar gyfer coronavirus erbyn mis Mehefin.

Yn ôl y Daily Express, maen nhw wedi bod yn cynnal profion ar lygod yn y gobaith o ddod o hyd i wellhad i’r firws sy’n lledu ar draws y byd.

Yn ôl Dr Paul McKay o Imperial College yn Llundain, mae’r brechlyn “yn gweithio’n dda iawn, iawn”.

Mae gwyddonwyr yn Paris hefyd yn cynnal profion ar fwncïod.

Mae’r tîm wedi gwneud cais am ragor o arian gan y Cyngor Ymchwil Feddygol er mwyn cynnal profion ar bobol erbyn mis Mehefin.

Maen nhw bellach yn galw am gefnogaeth Llywodraeth Prydain pe bai’r arbrofion yn llwyddiannus.

Gallai’r brechlyn newydd wedyn fod ar gael i bawb ymhen blwyddyn.