Mae 22 achos newydd o coronavirus wedi’u cadarnhau yng Nghymru.

Am y tro cyntaf, mae’n ymddangos i’r firws gyrraedd siroedd Conwy a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ond mae oddeutu hanner yr achosion newydd yn Abertawe.

Mae dau yng Nghastell-nedd Port Talbot, 10 yn Abertawe, dau yng Nghaerffili, dau yn Sir Fynwy, un yng Nghonwy, un yng Nghaerdydd, un ym Mhen-y-bont ar Ogwr, un yn Sir Gaerfyrddin a dau ym Mhowys.

Dydy’r union niferoedd ddim yn gwbl sicr erbyn hyn, gan fod yr awdurdodau wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi ffigurau wrth gynghori pobol i ynysu eu hunain am saith diwrnod yn hytrach na ffonio 111 i gael prawf.

Ond mae 60 o achosion wedi cael eu cadarnhau.