George Osborne
Mae arweinwyr parth yr ewro wedi rhoi economi’r wlad “ar y llwybr cywir” wrth gytuno neithiwr ar fesurau i ddatrys yr argyfwng ariannol yno, yn ôl y Canghellor George Osborne.
Dywedodd George Osborne bod gwledydd parth yr ewro wedi gwneud “cynnydd” mewn trafodaethau barhaodd nes oriau man y bore ym Mrwsel.
Ond rhybuddiodd ei fod yn bwysig cadw’r momentwm a manylu ar sut yn union y bydd y cytundeb tair rhan yn gweithio.
Mynnodd hefyd na fydd Prydain yn cyfrannu unrhyw arian at y Cyfleuster Sefydlogrwydd Ariannol Ewropeaidd.
Dywedodd swyddogion ym Mrwsel fod arweinwyr gwledydd Ewrop wedi dod i gytundeb â banciau a fydd yn derbyn na fydd Gwlad Groeg yn talu 50% o’u dyledion.
Maen nhw hefyd wedi cytuno ar gynyddu cronfa ariannol y Cyfleuster Sefydlogrwydd Ariannol Ewropeaidd i €1 triliwn (£880 biliwn).
Dywedodd George Osborne wrth raglen Today Radio 4 eu bod nhw “wedi gwneud cynnydd mawr ar y materion rheini yr oedd angen iddyn nhw wneud cynnydd arnynt”.
“Rydw i’n credu fod y cytundeb neithiwr wedi bod yn un da. Yn amlwg nawr mae’n rhaid mynd i edrych ar y manylion.
“Beth sy’n bwysig nawr ydi eu bod nhw’n cadw’r momentwm, ac yn osgoi beth ddigwyddodd ym mis Gorffennaf, sef cytuno ar becyn ond oedi am rai misoedd cyn ei roi ar waith.”