Mae natur rygbi fel gêm yn golygu bod annhegwch bron yn anorfod erbyn hyn ac nad yw’r tîm gorau bob amser yn ennill.

Dyna farn darlithydd chwaraeon ym Mhrifysgol UWIC Caerdydd ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

“Mae rygbi ei hun yn gêm mor gymhleth a’r rheolau mor gymhleth, fel bod penderfyniadau lwcus yn mynd i fod yn digwydd yn fwy aml.” meddai Dr Carwyn Jones. “Mi gollodd Cymru bob gêm o un pwynt neu dri phwynt mewn un gêm. Mae hynny’n golygu bod cic gosb yn dyngedfennol yn sut mae’r gêm yn mynd i gael ei hennill neu ei cholli.”

Yn ôl y darlithydd mewn moeseg chwaraeon, ar rai adegau mewn gêm, mae’r dyfarnwr yn gorfod dyfalu pa dîm sydd wedi troseddu. Y sgrym yw un o’r rhain.

“Mae pobol wedi cwyno ers amser hir bod y sgrym yn broblem, ac yn cymryd gormod o amser,” meddai gan fynnu bod sylwebwyr yn aml yn dweud mai lwc sy’n gyfrifol am benderfyniadau dyfarnwr i roi cic gosb i un tîm neu’r llall.

“Dydy o ddim yn gwybod beth sydd wedi achosi’r sgrym i gollapsio neu godi neu beth bynnag ydy o. Mae bron iawn yn amhosib dweud achos dydan ni ddim yn gwybod motifs y ddau dîm a hyn a’r llall.”

Ond fe fyddai newid rheolau’r sgrym yn cael dylanwad mawr ar y gêm, meddai.

“Os ydach chi’n tynnu’r sgrym allan o rygbi’r Undeb neu newid y sgrym fysa fo’n mynd yn fwy tebyg i rygbi’r gynghrair. Wedyn fe fyddech chi’n colli’r angen am chwaraewyr fel Adam Jones a Gethin Jenkins oherwydd fe fyddai eu sgiliau nhw, sef sgiliau sgrymio, ddim yn angenrheidiol os ydych chi yn newid rheolau’r sgrym.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref