Caerdydd 1 – 0 Burnley

Mae Caerdydd wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Carling ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Burnley heno.

Roedd un gôl yn ddigon i’w hennill hi ar y noson, a daeth y gôl honno i’r chwaraewr ifanc, Joe Mason wedi 40 o funudau.

Bydd Caerdydd nawr yn mynd i’r het ar gyfer y rownd go-gynderfynol – byddant yn cael gwybod pwy yw eu gwrthwynebwyr dydd Sadwrn yma.

Roedd buddugoliaethau heno hefyd i Man UTD, Arsenal a Crystal Palace.