Gareth Thomas
Mae’r chwaraewr rygbi  Gareth Thomas, sydd wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y ddwy ffurf o’r gêm, wedi ymddeol.

Mi  roedd disgwyl i Gareth Thomas chwarae yng nghyfres y Pedwar Gwlad, ond mewn datganiad heddiw fe gyhoeddodd ei fod yn ymddeol o bob ffurf o’r gêm.

“Rwy wedi trafod y penderfyniad yma gyda fy nheulu a ffrindiau agos. Os nad y’ch chi’n medru rhoi cant y cant  i rygbi, di chi’n methu gwneud cyfiawnder ag’ e.

“Ma hwn yn ddiwrnod trist, ond rwy’n gwybod fod yr amser wedi dod i roi’r gorau ar fy ngyrfa fel chwaraewr. Bydd fy angerdd am y gamp byth yn diffodd nac yn fy ngadael,” meddai Gareth TThomas.

Mewn datganiad bu prif hyfforddwr tîm rygbi cynghrair Cymru, Iestyn Harris, yn talu teyrnged iddo.

“Rwy wedi gweithio gyda Gareth am bron i ddwy flynedd, mae’r gwaith ar awydd mae wedi ei ddangos i newid o (rygbi) Undeb i’r Gynghrair yn glod i’w broffesiynoldeb.”

Gyrfa lwyddiannus

Fe ddechreuodd gyrfa Gareth Thomas, neu “Alfie” fel mae’n cael ei alw gan ei gyd chwaraewyr, gyda chlwb rygbi Pen y Bont. Yn ystod ei yrfa yn rygbi’r Undeb fe chwaraeodd dros Gaerdydd, Rhyfelwyr Celtaidd a Toulouse cyn dychwelyd i ranbarth y Gleision Caerdydd. Efe hefyd yw’r chwaraewr cyntaf o Gymru i ennill 100 o gapiau i’w wlad yn y gamp. Cafodd ei benodi yn gapten am ddwy brawf olaf y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 2005 wedi anaf i Brian O’Driscoll.

Yna ym mis Mawrth 2010 fe benderfynodd Alfie i ymuno a thîm rygbi’r Gynghrair, y Crusaders yn Wrecsam, ac ennill 4 cap i dîm cenedlaethol Cymru yn y gamp.

Ond wedi i’r Crusaders gyhoeddi nad oedden nhw’n  bwriadu chwarae yng nghynghrair y Super League y tymor nesa mi roedd yna si fod Gareth Thomas am arwyddo i glwb Wigan.

Dyfodol

Ar ei dudalen Facebook dwedodd nad oedd yn siŵr beth fydd yn gwneud nesa “ond fod yr her o rywbeth gwahanol yn fy nghyffroi yn fwy na blwyddyn arall o rygbi.”

Gorffennodd y datganiad trwy ddiolch i bawb a oedd wedi bod ynghlwm gyda’r gamp.

“Rwy’n gadael gan wybod fy mod wedi gwneud fy ngorau i fod y person a chwaraewr gorau gallem fod wedi bod. Ac yn olaf, rwy’n diolch i fy rhieni am eu cefnogaeth a chymorth trwy gydol fy ngyrfa.”