Mae’r rhanbarth o’r gorllewin wedi arwyddo’r asgellwr o Tonga, Viliame Iongi, ar gytundeb hir dymor.

Roedd yr asgellwr wedi tynnu sylw hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, yn ystod cystadleuaeth Cwpan Churchill ym mis Mehefin, wrth iddo sgorio pedair allan o bump o geisiau Tonga yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Ers hynny mae wedi ymestyn nifer ei gapiau rhyngwladol i 9, ac wedi chwarae yn erbyn Seland Newydd, Canada a Ffrainc yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Fe fydd Iongi, sydd yn 22 mlwydd oed, yn cyrraedd y rhanbarth yn y pythefnos nesa, o Auckland.

‘Dimensiwn newydd’

Mewn datganiad ar wefan y Scarlets dywedodd eu prif hyfforddwr Nigel Davies: “Ry’n ni’n hapus iawn bod Viliame Iongi yn ymuno a ni – fe fydd yn rhoi dimensiwn newydd i ni.

“Ynghyd a Sione Timani ry’n ni wedi llwyddo i sicrhau chwaraewyr profiadol mewn ardaloedd penodol a fydd yn ychwanegu i’n ffordd ddynamig ac egnïol o chwarae – fe fydd hwn yn ei dro yn cael effaith bositif ar y chwaraewyr ifanc yn ein carfan.”

Dywedodd Iongi, “Mae’n gyfle gwych i mi. Hwn yw fy nghytundeb proffesiynol cyntaf ac mae’n rhoi cyfle i mi chwarae yn Ewrop.”

Fe fydd y Scarlets yn herio Ulster ar Barc y Scarlets dydd Sadwrn cyn croesawu Castres Olympique ar y 7 o Dachwedd yng ngem gyntaf eu hymgyrch Cwpan Heineken.