Mark Hughes
Mae’r Cymro Mark Hughes yn un o’r enwau sy’n cael ei gysylltu â swydd rheolwr Caerlŷr sydd wedi ei gadael yn wag gan Sven-Goran Eriksson.

Cafodd Eriksson, sy’n gyn-reolwr ar dîm Lloegr, ei ddiswyddo neithiwr ar ôl Gaerlŷr golli gartref o 3-0 yn erbyn Millwall dros y penwythnos.

Penawdau am y rhesymau anghywir

Mae Hughes, a ddechreuodd ei yrfa reoli gyda Chymru, cyn symud i reoli Blackburn a Man City wedi bod yn chwilio am waith ers ymddiswyddo fel rheolwr Fulham dros yr haf.

Roedd y Cymro yn y penawdau newyddion am resymau rhyfedd iawn ddoe wrth i gadeirydd Fulham, Mohamed Al Fayed ymosod arno yn y wasg, a’i alw’n ‘ddyn od’.

Rai dyddiau yn ôl roedd Hughes yn y penawdau newyddion eto ar ôl iddo feirniadu rheolwr presennol Man City, Roberto Mancini, gan ei alw’n rheolwr ‘hen ffasiwn’ ac ‘unbenaethol’ wrth siarad â’r Daily Mirror.

O’Neill yn ffefryn

Cyn rheolwr Caerlŷr, Martin O’Neill yw’r ffefryn clir i lenwi’r swydd wag – gwnaeth ei enw wrth reoli’r clwb yn y 1990au gan ennill Cwpan y Gynghrair ar ddau achlysur, yn ogystal â sefydlu’r tîm yn yr Uwch Gynghrair.

Mae O’Neill wedi bod allan o waith ers gadael Aston Villa llynedd – swydd arall cafodd Mark Hughes ei chysylltu â hi.

Yn ogystal â Hughes ac O’Neill, mae enwau Billy Davies, Alan Curbishley, Carlo Ancelotti a chyn rheolwr Caerdydd, Dave Jones oll wedi eu cysylltu â swydd Caerlŷr.