Mae nifer achosion y coronafeirws ym Mhrydain wedi codi i 206, cynnydd o 42 ar y nifer a oedd wedi eu cadarnhau ddoe.

Mae nifer yr achosion yng Nghymru yn aros ar ddau, ar ôl i’r diweddaraf gael ei gadarnhau ddydd Iau.

Mae cyfanswm o 634 o bobl wedi cael eu profi yng Nghymru hyd yma, allan o 21,000 ledled Prydain.

Bellach, mae dau glaf wedi marw o’r haint yn Lloegr, un dyn yn ei 80au yn Milton Keynes neithiwr, a dynes yn ei 70au yn Reading nos Iau. Roedd y ddau yn dioddef o anwylderau eraill yn ogystal â bod wedi eu heintio â’r coronafeirws.

Mae pryder hefyd am Brydeinwyr sydd ar long mordeithiau’r Grand Princess oddi ar arfordir California. Mae 140 o Brydain ymhlith y 3,500 o bobl sydd ar ei bwrdd, lle mae 21 o deithwyr wedi profi’n gadarnhaol i’r haint. Fe fydd y llong yn glanio mewn porthladd nad yw’n un masnachol ar gyfer eu profi.