Fe fydd y Pab Ffransis yn cyflwyno’i ddwy fendith gyhoeddus nesaf ar fideo i osgoi torfeydd, er mwyn ceisio atal lledaeniad y coronafeirws.

Yn lle cyflwyno’i fendith o ffenest uwchben Sgwâr San Pedr yn ôl y traddodiad, fe fydd yn gwneud hynny yfory o’r llyfrgell yn y Plas Apostolaidd, ac fe fydd yr un peth yn digwydd ddydd Mercher.

Mae’r dyn 83 oed yn gwella o annwyd ar hyn o bryd, ac oherwydd iddo golli un ysgyfaint oherwydd haint anadlol pan oedd yn iau, byddai Ffransis mewn perygl o gymhlethdodau difrifol pe bai’n dal y feirws.

Fe ddaw’r mesurau ar ôl i’r Fatican gadarnhau ei achos gyntaf o’r feirws ddoe.

Yn y cyfamser, mae’r Eidal yn argymell y dylai pobl oedrannus aros adref.