Mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn cydweithio gydag archfarchnadoedd er mwyn sicrhau bod cyflenwadau bwyd ar gael wrth i nifer y bobl sydd a coronafirws, ac sy’n gorfod hunan-ynysu yn eu cartrefi, gynyddu.
Bu’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock yn ceisio sicrhau’r cyhoedd yn dilyn achosion lle’r oedd pobl wedi bod yn prynu nwyddau fel papur tŷ bach a paracetamol mewn panig, fel bod silffoedd mewn rhai archfarchnadoedd yn wag.
Daw hyn ar ôl i’r person cyntaf yn y Deyrnas Unedig farw o’r coronafirws. Mae’n debyg bod y claf yn ddynes yn ei 70au a’i bod wedi cael triniaeth mewn ysbyty yn Reading.
Mae 116 o achosion o coronafirws bellach wedi cael eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys dau yng Nghymru.
Wrth siarad ar raglen Question Time y BBC, dywedodd Matt Hancock: “Ry’n ni’n gwneud yn siŵr y bydd pobl sy’n hunan-ynysu yn gallu cael cyflenwadau bwyd,” gan bwysleisio “nad oedd angen” i unigolion “brynu mwy na sydd ei angen arnyn nhw”.
Dywedodd Matt Hancock y dylai unrhyw un sy’n hunan-ynysu oherwydd coronafirws gadw draw rhag aelodau o’u teulu cymaint â phosib a sicrhau bod ystafelloedd sy’n cael eu rhannu, fel ystafelloedd ymolchi, yn cael eu glanhau.
Llong bleser
Yn y cyfamser mae 142 o bobl o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys 121 o deithwyr a 21 o griw – ar long bleser y Grand Princess sydd mewn cwarantin oddi ar arfordir Califfornia.
Dywedodd Princess Cruises eu bod nhw’n dilyn cyngor ac yn gofyn i’r gwesteion aros yn eu stafelloedd tra bod profion yn cael eu cynnal.