Mae’r Prif Weinidog wedi parhau i amddiffyn yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn erbyn honiadau ei bod hi wedi bwlio staff mewn tair adran wahanol o’r llywodraeth.
Dywed Boris Johnson bod Priti Patel yn gwneud “gwaith gwych” wrth wynebu “lot o anawsterau.”
Ond mewn ymddangosiad ar raglen This Morning, dywedodd ei fod wedi rhybuddio aelodau’r Cabinet nad oedd yn hoffi bwlio.
Daeth ei sylwadau ar ôl i was sifil yn y Swyddfa Gartref, Syr Philip Rutman, gyhoeddi ddydd Sadwrn (Chwefror 29) ei fod yn ymddiswyddo, a chyhuddo Priti Patel o fwlio staff yn yr adran.
Yn dilyn ei ymddiswyddiad, daeth rhagor o honiadau o fwlio o’u chyfnod mewn swyddi gweinidogol eraill.
“Does dim angen imi ddweud nad ydw i’n hoffi bwlio. Mae’n rhaid i ni ymchwilio’r peth ac mi fydd yna ymchwiliad Cabinet,” meddai Boris Johnson.
“Mae fy ngreddf yn dweud wrtha i sticio gyda Priti. Mae hi’n gwneud gwaith gwych wrth wynebu lot o anawsterau.”