Mae’r cyn Brif Weinidog Gordon Brown wedi taflu ei bwysau tu ôl i Syr Keir Stamer yn y ras am arweinyddiaeth y blaid Lafur gan ddweud bod ganddo’r cymwysterau i fod yn “brif weinidog i’r dyfodol.”

Pwysleisiodd Gordon Brown bod angen i’r blaid uno a dywedodd bod yno “dri ymgeisydd teilwng” i gymryd lle Jeremy Corbyn.

Canmolodd Rebecca Long-Bailey am bwysleisio pwysigrwydd “cytundeb gwyrdd newydd” a Lisa Nandy am siarad am “roi pŵer i gymunedau.”

“Ond mae yna un ymgeisydd sydd gyda’r arbenigedd, yr huodledd, yr ymrwymiad, dyfalbarhad ac yn wir y gwerthoedd sydd eu hangen i Lafur ddychwelyd i bŵer,” meddai.

“Mae pleidlais dros Keir Stamer yn bleidlais dros obaith, yn bleidlais at y dyfodol. Mae’n bleidlais dros y gwerthoedd rydym oll yn coelio ynddynt.

“Ymunwch â Keir Stamer a pleidleisiwch dros Lywodraeth Lafur.”