Mae achos arall o’r Coronafirws Covid-19 wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru, wrth i’r cyfanswm drwy Brydain ddringo i dros 100 am y tro cyntaf.

Allan o 18,083 o bobl sydd wedi cael eu profi hyd yma, mae 116 wedi profi’n bositif.

O’r rhain, dau sydd yng Nghymru, chwech yn yr Alban, tri yng Ngogledd Iwerddon, a’r mwyafrif llethol – 105 – yn Lloegr.

Cafwyd 25 o achosion ychwanegol yn Lloegr heddiw, ac o’r rhain roedd 17 wedi teithio’n ddiweddar i wledydd lle mae clystyrau wedi eu darganfod eisoes. Roedd wyth arall wedi dal y feirws ym Mhrydain rywsut neu’i gilydd.

Dychwelyd o’r Eidal

Dywed Dr Giri Shankar, sy’n gyfrifol am ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r haint, nad yw’r achos newydd yng Nghymru’n golygu risg ychwanegol i’r cyhoedd.

“Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau bod y claf wedi teithio yn ôl i Gymru o Ogledd yr Eidal, lle cafodd y feirws ei ddal,” meddai.

“Mae’r unigolyn yn dangos symptomau ysgafn ac wedi bod yn hunanynysu ers dychwelyd i Gymru.

“Mae’r claf wedi’i asesu gan ymgynghorydd clefydau heintus arbenigol ac mae’n cael ei reoli mewn lleoliad priodol, gyda monitro bob dydd.

“Rydym yn gofyn i’r cyfryngau a’r cyhoedd i barchu preifatrwydd yr unigolyn a’i deulu.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, fod hanner holl achosion y coronafeirws ym Mhrydain yn fwyaf tebygol o ddigwydd dros gyfnod o dair wythnos, a 95% ohonyn nhw dros gyfnod o naw wythnos.