Mae prosiect gan Gyngor Môn i adnewyddu Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi ar y rhestr fer ar gyfer tair gwobr genedlaethol.

Cafodd y prosiect uchelgeisiol i ailwampio Neuadd y Farchnad ei gwblhau ym mis Medi ac mae’r adeilad bellach yn gartref i lyfrgell y dref ac yn cynnig lle cyffrous i gynnal digwyddiadau a chyfarfodydd.

Mae’r prosiect ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Cynllunio 2020 y Royal Town Planning Institute, y categori Rhagoriaeth mewn Cynllunio ar gyfer Treftadaeth a Diwylliant a Gwobrau Effaith Cymdeithasol Royal Institute of Chartered Surveyors.

Nod y Cyngor oedd bod yr adeilad rhestredig Gradd II yn dod yn ganolbwynt ar gyfer Caergybi a’i thrigolion.

Drwy sicrhau Arian Cronfa Treftadaeth y Loteri, arian gan Lywodraeth Cymru a Chyllid Datblygiad Rhanbarthol Ewrop er mwyn gallu atgyweirio ac ailddefnyddio’r adeilad, mae hyn wedi golygu bod y rhan fwyaf o bell ffordd o’r prosiect gwarchod ac adfer wedi ei ariannu gan ffynonellau allanol.

“I ddechrau ac yn bwysicaf, rydym yn hynod falch o fod wedi gallu adnewyddu’r adeilad hanesyddol hwn ar ran pobl Caergybi,” meddai Nathan Blanchard, Rheolwr Prosiect Adfywio Treftadaeth.

“Rŵan, i gael ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer tair gwobr genedlaethol gan yr RTPI a RICS, mae’n glod rhagorol i ddyfalbarhad, sgiliau a chrefftwaith pawb a weithiodd ar y prosiect cyffrous hwn.”

Mae llyfrgell y dref yn rhan o’r hen neuadd ar ei newydd wedd