Mae ysgol uwchradd yn y Wirral yn Swydd Caer wedi cau oherwydd “mesurau gofal” ar ôl i riant un o’u myfyrwyr brofi’n bositif am coronavirus.
Dosbarthodd Hilbre High School lythyr i’w rhieni yn dweud “cyn i ni gael ein hysbysu fod y rhiant wedi dal y firws, bu plentyn y rhiant yn yr ysgol ddoe.”
“Bydd Hilbre High School yn ail agor pan fyddaf yn hyderus nad oes unrhyw berygl i fyfyrwyr yn dilyn y cadarnhad heddiw o coronavirus,” meddai’r pennaeth Mark Bellamy.
“Unwaith y bydda i’n gwybod beth yw canlyniadau profion y myfyrwyr dan sylw, byddaf wedyn yn medru gwneud penderfyniad deallus am pryd fydd yr ysgol yn medru ail agor.”
Ychwanegodd yr ysgol fod y penderfyniad wedi ei wneud er nad oedd wedi ei gyhoeddi’n swyddogol gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr.
Yn ôl cyngor cenedlaethol, ddylai ysgolion Lloegr ddim cau o ganlyniad i achosion honedig neu achosion sydd wedi eu cadarnhau os nad ydyn nhw’n cael cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.