Mae Matt Hancock yn dweud ei fod e’n obeithiol o allu atal coronavirus rhag lledu ymhellach.

Daw sylwadau Ysgrifennydd Iechyd San Steffan ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cynllun gweithredu pe bai pandemig yn cael ei ddatgan.

Mae’n dweud nad yw’r llywodraeth wedi wfftio’r posibilrwydd o gyflwyno mesurau mwy llym pe bai’r sefyllfa’n gwaethygu.

Serch hynny, mae’n dweud nad yw atal hediadau o Tsieina wedi llwyddo yn yr Eidal ond un cam sy’n cael ei ystyried yw gofyn i weithwyr iechyd sydd wedi ymddeol ddychwelyd i’w gwaith.

Mae 23 o achosion wedi’u cadarnhau yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn.

‘Mae’r cynllun yn glir iawn’

“Mae’r cynllun yn glir iawn,” meddai Matt Hancock wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Yn gyntaf, cadw rheolaeth ar y firws yma.

“Dyna’r cam ry’n ni’n ei gymryd nawr, a gobeithio y gallwn ni lwyddo i wneud hynny.”

Mae’n dweud mai’r cynllun tymor hir yw ceisio atal y firws rhag cyrraedd ei lefel waethaf tan yr haf, pan fydd yn haws ei atal rhag lledu.

Mae’r llywodraeth hefyd yn barod i wario £40m i ddod o hyd i frechlyn a thriniaeth ar gyfer cleifion.

Ond mae Matt Hancock yn dweud y dylai pobol “fynd o gwmpas eu pethau yn ôl eu harfer” yn y cyfamser, gan egluro na fyddai atal teithio’n debygol o lwyddo ar hyn o bryd.

“Ond pe baen ni’n cyrraedd sefyllfa lle mae’n fwy eang o lawer, yna fydden ni, wrth gwrs, yn newid y cyngor er mwyn ymdrin â hynny,” meddai wrth Sky News.