Ymdrin â’r coronavirus yw “prif flaenoriaeth Llywodraeth Prydain”, yn ôl y prif weinidog Boris Johnson, sy’n cael ei feirniadu am ei ddiffyg ymateb i’r argyfwng iechyd.

Dywedodd e wrth y wasg ddoe (dydd Gwener, Chwefror 28) ei fod e wedi cyfarfod â’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock a Phrif Swyddog Meddygol Lloegr i drafod ymateb yr awdurdodau.

“Ar fater coronavirus, sy’n amlwg yn destun pryder mawr i bobol, dw i jyst eisiau sicrhau pawb a dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn gwneud yr holl baratoadau posib,” meddai Boris Johnson.

“Fel y gallwch chi ddychmygu, mae mater coronavirus yn rhywbeth sydd bellach yn brif flaenoriaeth y Llywodraeth.”

Ac yn ôl y Gweinidog Iechyd Helen Whately, mae’n fwy “tebygol” y bydd pobol yng ngwledydd Prydain yn cael eu taro gan y firws, a bod camau gweithredu yn eu lle pe bai’n dod yn bandemig.

“Alla i ddim ategu digon ein bod ni wedi paratoi’n dda, ond fod rhaid i ni gydnabod ei bod yn debygol y gwelwn ni ragor o achosion yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth raglen Newsnight y BBC.

“Mae gyda ni gynlluniau yn eu lle ac rydym wedi gweithredu fel ein bod ni’n barod rhag ofn y bydd rhywbeth fel pandemig o’r ffliw.”

Dywed fod gwahardd grwpiau mawr o bobol rhag cyfarfod “dan ystyriaeth”.

Achos wedi’i drosglwyddo o fewn gwledydd Prydain

Yn ôl yr awdurdodau, maen nhw wedi cofnodi’r achos cyntaf o’r coronavirus sydd wedi cael ei drosglwyddo o un person i’r llall o fewn gwledydd Prydain.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd tarddiad yr achos, na chwaith a fu’r unigolyn mewn cysylltiad ag unigolyn arall sydd wedi bod dramor.

Mae ymchwiliad ar y gweill wrth i’r unigolyn, sy’n byw yn Surrey, dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Llundain.

Roedd meddygfa yn Surrey ynghau ddoe (dydd Gwener, Chwefror 29) “fel rhagofal”.

Mae 18 o achosion wedi’u cadarnhau yn Lloegr, un yng Nghymru ac un yng Ngogledd Iwerddon.