Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i gerddwr gael ei daro gan gar yn ardal maes awyr Caerdydd.

Fe ddigwyddodd ar ffordd A4226 ger y Barri am 2.30 fore heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 29).

Mae’r ffordd ynghau rhwng y gwesty Travelodge hyd at gylchfan yr A4226.

Mae rhybudd i deithwyr gadw draw o’r ardal am y tro, ac i ddefnyddio ffyrdd eraill er mwyn cyrraedd y maes awyr tra bod oedi.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu ddeunydd dashcam ffonio’r heddlu ar 101.