Mae’r Tywysog Harry wedi ymuno gyda’r canwr Jon Bon Jovi mewn stiwdio recordio yn Llundain.

Mae’r Americanwr enwog wrthi yn recordio cân ar gyfer yr Invictus Games Foundation, elusen Harry sy’n helpu cyn-filwyr sydd wedi diodde’ ar faes y gad.

Daeth Harry yn ôl i Brydain o Ganada’r wythnos hon, i bregethu am fendithion ‘twristiaeth cynaliadwy’ fel ffordd o achub y blaned.

Heddiw mae Harry yn stiwdios recordio enwog Abbey Road, lle bu’r Beatles yn recordio yn y 1960au.

Mae Jon Bon Jovi yno i ail-recordio’r gân ‘Unbroken’ gyda chôr yr Invictus Games.

Roedd mam a thad Jon Bon Jovi yn y fyddin yn America ac mae wedi sgrifennu ‘Unbroken’ er mwyn tynnu sylw at gyn-filwyr sy’n diodde’ ôl-drawma (PTSD).