Bydd deddfwriaeth i atal brawychwyr rhag cael eu rhyddhau o’r carchar yn awtomatig yn dod yn gyfraith yr wythnos hon, cyn i’r brawychwr nesaf gael ei ryddhau o’r carchar.
Mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei phasio gan Dŷ’r Cyffredin, a chafodd ei chefnogi gan Dŷ’r Arglwyddi heb ei diwygio.
Bydd y ddeddf, sy’n mynd i effeithio 50 o garcharorion, yn sicrhau bod brawychwyr yn treulio dau draean o’u dedfryd dan glo cyn eu bod yn gymwys i gael eu rhyddhau.
Cyn cael eu rhyddhau, bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu hadolygu gan banel o farnwyr arbenigol a seiciatryddion ar Fwrdd Parôl.
Newid yn y gyfraith
Daw’r newid yn y gyfraith yn dilyn ymosodiad brawychol Streatham yn gynharach y mis hwn, pan drywanodd Sudesh Amman ddau aelod o’r cyhoedd gyda chyllell gymerodd e o siop.
Roedd y dyn ugain oed wedi cael ei ddedfrydu i garchar fis Rhagfyr 2018 am ledaenu dogfennau brawychol cyn cael ei ryddhau hanner ffordd drwy ei ddedfryd, gwta bythefnos cyn yr ymosodiad.
Hwn oedd yr ail ymosodiad o fewn tri mis gan frawychwr oedd wedi bod yn y carchar, ar ôl i Usman Khan lofruddio dau berson ger London Bridge fis Tachwedd.
Roedd e wedi cael ei ryddhau o’r carchar flwyddyn cyn hynny, hanner ffordd drwy ddedfryd o 16 mlynedd.
Bu beirniadaeth drawsbleidiol o’r ddeddf oherwydd natur y ddeddfwriaeth brys, ond cafodd ei phasio gan Dŷ’r Cyffredin a’r Arglwyddi heb gael ei diwygio.
Dywed yr Arglwydd Keen bod rhaid i’r Senedd roi’r gorau i drefniant oedd yn caniatáu i “frawychwr peryglus gael ei ryddhau o’r carchar cyn diwedd eu dedfryd gan broses gyfreithiol awtomatig”.