Mae Tŷ’r Arglwyddi’n dweud ei fod yn sefydliad “prysur ac effeithiol” wrth amddiffyn penderfyniad i roi traean yn fwy o arian i aelodau y llynedd.

Yn ôl y Sunday Times, roedd cynnydd o 29% yn lwfans presenoldeb aelodau hyd at fis Mawrth diwethaf, wrth iddyn nhw dderbyn £23m rhyngddyn nhw.

Hawliodd mwy na 110 o aelodau gwerth £1m, er na wnaethon nhw gyfrannu ar lafar nac yn ysgrifenedig yn ystod y cyfnod hwnnw.

£30,827 oedd y taliad i aelodau unigol ar gyfartaledd ond fe ddaeth i’r amlwg fod rhai arlgwyddi wedi hawlio mwy o dreuliau na chyflog cyfartalog aelodau seneddol.

Yn ôl llefarydd, mae modd priodoli’r cynnydd i’r ffaith fod disgwyl i’r arglwyddi fod yn Nhŷ’r Arglwyddi yn fwy aml dros y flwyddyn ddiwethaf – o 129 o ddiwrnodau yn 2017-18 i 161 o ddiwrnodau yn 2018-19.

Roedd yr arglwyddi wedi ymgynnull yn llai aml yn 2017-18 oherwydd yr etholiad cyffredinol, yn ôl y llefarydd sy’n dweud bod Tŷ’r Arglwyddi’n “siambr adolygu prysur ac effeithiol sy’n gwneud gwaith pwysig wrth graffu ar ddeddfwriaeth a dal y llywodraeth i gyfrif”.

‘Sgandal treuliau’

Ond mae un o gyfarwyddwyr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol yn dweud bod “sgandal treuliau ar y gweill” yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Mae arglwyddi nad ydyn nhw’n cael eu hethol yn manteisio ar ddiffyg craffu yn y siambr uchaf,” meddai Willie Sullivan.

“Mae’r Arglwyddi’n sgandal treuliau sydd ar y gweill – ac fe welwn ni hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn oni bai bod diwygio.”