Tyson Fury yw pencampwr pwysau trwm y byd y WBC ar ôl trechu Deontay Wilder yn y seithfed rownd yn Las Vegas.

Daw ei fuddugoliaeth ddiweddaraf 14 mis ers iddo gael gornest gyfartal yn erbyn yr un gwrthwynebydd.

Cafodd Deontay Wilder ei lorio ddwywaith, yn y drydedd a’r bumed rownd, cyn i’w dîm cynorthwyo ildio ar ei ran, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty ar ôl yr ornest.

Yn dilyn buddugoliaeth Tyson Fury, mae ei hyrwyddwr Frank Warren bellach yn llygadu gornest yn erbyn Anthony Joshua.