Cymru 23–27 Ffrainc

Colli fu hanes Cymru nos Sadwrn wrth iddynt groesawu Ffrainc i’r stadiwm cendlaethol yng Nghaerydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd hi’n gêm agos ar y cyfan, ond yn y bôn, talodd Cymru’r pris am ddechrau’n araf ac am ambell i benderfyniad gwael.

Hanner Cyntaf

Cic gosb gan Dan Biggar a oedd pwyntiau cyntaf y gêm ond y Ffrancwyr a ddechreuodd orau ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen gyda chais Anthony Bouthier wedi saith munud, y cefnwr yn elwa ar gamgymeriad Leigh Halfpenny o dan cic uchel.

Llwyddodd Romain Ntamack gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn y fantais i saith pwynt wedi chwarter y gêm.

Caeodd Biggar y bwlch hwnnw gyda chic gosb arall cyn i’r ymwelwyr sgorio eu hail gais. Y clo, Paul Willemse yn sgorio y tro hwn, yn croesi’n rhy rhwydd o lawer wedi lein bump.

Cyfnewidiodd Ntamack a Biggar gic gosb yr un wedi hynny cyn i Gymru orffen yr hanner yn gryf.

Treuliodd y tîm cartref gyfnod hir yng nghysgod pyst y Ffrancwyr ac wedi i troseddu cysgon gan yr ymwelwyr fe anfonwyd Gregory Alldritt i’r gell gosb.

Gallai Cymru fod wedi cymryd y tri phwynt syml a throi am yr ystafell newid ond mynd am y sgrym a wnaethant, penderfyniad na wnaeth ddwyn ffrwyth.

Ail Hanner

Cafodd Cymru’r dechrau perffaith i’r ail hanner gyda Dillon Lewis yn hyrddio drosodd wrth y pyst wedi cyfnod o bwyso gan ei gyd flaenwyr yn nau ar hugain Ffrainc, Cymru o fewn pwynt wedi trosiad Biggar.

Daeth cyfle i Gymru fynd ar y blaen wedi hynny pan ddyfarnwyd cic gosb iddynt yng nghanol y cae ar y llinell hanner. Roedd hi o fewn cyrraedd Leigh Halfpenny ond dewis y sgrym a wnaeth Alun Wyn Jones ac arweiniodd hynny at gais i Ffrainc wrth i Ntamack ryng-gipio pas Nick Tompkins.

Trosodd y maswr ei gais ei hun cyn ymestyn mantais ei dîm gyda chic gosb arall toc wedi’r awr. Roedd angen dau gais ar Gymru felly wrth i’r munudau ddiflannu.

Daeth un o’r rheiny pan hyrddiodd Dan Biggar drosodd bum munud o’r diwedd ond er iddynt daflu popeth at y Ffrancwyr yn y munudau olaf, daliodd yr ymwelwyr eu gafael a bu rhaid i dîm Wayne Pivac fodloni ar bwynt bonws yn unig.

.

Cymru

Ceisiau: Dillon Lewis 48’, Dan Biggar 75’

Trosiadau: Dan Biggar 49’, 75’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 4’, 26’, 34’

.

Ffrainc

Ceisiau: Anthony Bouthier 7’, Paul Willemse 30’, Romain Ntamack 52’

Trosiadau: Romain Ntamack 8’, 31’, 53’

Ciciau Cosb: Romain Ntamack 19’, 63’

Cerdyn Melyn: Gregory Alldritt 40’, Mohamed Haouas 69’