Bromley 0–2 Wrecsam                                                                     

Rhoddwyd hwb i obeithion Wrecsam o aros yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth oddi cartref dda yn erbyn Bromley ar Hayes Lane brynhawn Sadwrn.

Roedd Jordan Ponticelli eisoes wedi taro’r postyn i’r ymwelwyr cyn i Davis Keillor-Dunn eu rhoi ar y blaen wedi 11 munud, y gŵr ifanc yn rhwydo wedi rhediad unigol gwych.

Bu rhaid i Wrecsam amddiffyn am gyfnodau hir wedi hynny ond roedd y tri phwynt yn ddiogel ym munud olaf y naw deg wedi i Ponticelli rwydo o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwrthymosodiad chwim.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r ail safle ar bymtheg yn y tabl ond maent yn aros ddau bwynt yn unig uwch ben safleoedd y gwymp.

.

Bromley

Tîm: Cousins, Coulson, Kizzi, Raymond (Rees 65’), Winfield, Bush, Wood, Bingham, Whitely, Williamson (Rowe 59’), Cheek (Clifton 68’)

Cerdyn Melyn: Winfield 54’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Thompson, Kennedy (Wright 59’), Young, Pearson, Garratt, Lawlor, Harris, Jarvis, Keillor-Dunn (Rutherford 76’), Ponticelli

Goliau: Keillor-Dunn 11’, Ponticelli 89’

Cardiau Melyn: Young 33’, Pearson 51’, Lainton 86’