Casnewydd 2–1 Bradford                                                                

Tarodd Casnewydd yn ôl i guro Bradford ar Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen cyn i’r tîm cartref daro nôl gyda dwy gôl cyn yr egwyl.

Wedi pum munud ar hugain di sgôr daeth dwy gôl mewn dau funud. Peniodd Clayton Donaldson yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Connor Wood cyn i beniad Ryan Inniss o gic gornel Josh Sheehan unioni’r sgôr.

Ac roedd y tîm cartref ar y blaen erbyn hanner amser diolch i ergyd gadarn Scot Bennett i’r gornel isaf ddeuddeg munud cyn troi.

Bu bron i Jake Reeves gipio pwynt i Bradford yn yr ail hanner ond taro’r trawst a wnaeth wrth i Gasnewydd ddal eu gafael.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Mike Flynn i’r pynthegfed safle yn y tabl.

.

Casnewydd

Tîm: King, Inniss, Bennett, Demetriou, Willmott, Sheehan, Gorman (Howkins 79’), Khan (Dolan 89’), Haynes, Green (Abrahams 74’), Matt

Goliau: Inniss 28’, Bennett 33’

Cardiau Melyn: Inniss 38’, King 87’

.

Bradford

Tîm: O’Donnell, Henley (P. O’Connor 45’), A. O’Connor, Richards-Everton, Wood, Mottley-Henry, Reeves, Akpan (Pritchard 77’), Middleton (McCartan 77’), Donaldson, Novak

Gôl: Donaldson 26’

Cardiau Melyn: Donaldson 38’, Reeves 90+4’

.

Torf: 3,439