Stoke 2–0 Caerdydd
Sgoriodd Joe Allen wrth i Stoke drechu Caerdydd yn y gêm Bencampwriaeth yn Stadiwm Bet365 brynhawn Sadwrn.
Roedd gôl i’w rwyd ei hun gan Paterson eisoes wedi rhoi’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i “Pirlo’r Preseli” ddyblu’r fantais wedi’r egwyl.
Chwaraewr Caerdydd a sgoriodd y gôl agoriadol ond yn anffodus, un i’w rwyd ei hun a oedd hi, Callum Paterson yn penio’r bêl heibio Alex Smithies o gic gornel.
Gôl flêr a oedd ail Stoke hefyd, ddeunaw munud o’r diwedd. Cafodd ergyd wreiddiol Tyryse Campbell ei harbed gan Smithies cyn i Allen rwydo ar yr ail gynnig.
Mae’r canlyniad yn gadael tîm Neil Harris yn ddegfed yn y tabl, chwe phwynt o’r safleoedd al gyfle.
.
Stoke
Tîm: Butland, Smith, Batth, Chester, Martins Indi, Allen, Clucas, Ince, Powell (Cousins 81’), Thompson (Collins 85’), Campbell (Gregory 89’)
Goliau: Paterson [g.e.h.] 26’, Allen 72’
Cerdyn Melyn: Powell 78’
.
Caerdydd
Tîm: Smithies, Richards (Whyte 90+2’), Morrison, Nelson, Bennett, Vaulks, Pack, Adomah, Ward (Glatzel 69’), Murphy (Hoilett 66’), Paterson
Cerdyn Melyn: Richards 87’
.
Torf: 25,436