Mae staff academaidd mewn 74 o brifysgolion ledled Prydain yn mynd ar streic yfory (dydd Iau, Chwefror 20), am 14 diwrnod mewn dadl hir dros gyflogau a phensiynau.
Mae Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn honni mai dyma’r streic fwyaf ar gampysau Prydain erioed.
Dim cytundeb
Mae’r ddwy ochr yn anghytuno’n llwyr, a phawb yn taflu’r bai ar naill a’r llall am y diffyg cytundeb.
Mae’r undeb wedi cyhuddo Universities UK, cynrychiolwyr y prifysgolion ar y mater hwn, o wrthod gwneud cynnig o’r newydd ar bensiynau.
Hefyd, mae’r undeb yn dweud nad oedd Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA) yn fodlon siarad am y mater cyflogau.
Siom
Mae llefarydd ar ran yr UCEA wedi dweud fod y prifysgolion yn “hynod siomedig” fod y streicio helaeth yma am fwrw ‘mlaen.
“Mae’r UCEA wedi cynnig sgyrsiau answyddogol pellach gyda’r Undeb, ac yn erfyn ar arweinwyr yn undeb i ail ystyried y streicio niweidiol yma, fydd yn niweidiol i fyfyrwyr, staff a’u haelodau eu hunain. Nid ydyn nhw wedi clywed eto am y cynigion cadarnhaol sydd ar y bwrdd.”
Ond yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr UCU Jo Grady, mae’r Is-ganghellorion wedi cael misoedd i ddod â chynnig fyddai’n cael ei gymryd o ddifrif.
“Mae’n anhygoel eu bod yn medru cyhuddo’r undeb o ymddwyn yn ragrithiol pan mae’n nhw’n gwrthod siarad am y broblem ynglŷn a chyflogau ac wedi treulio wythnos gyfan yn methu rhoi cynnig bensiynau.
“Dydi staff ddim am dderbyn pregeth am lymder a chadw cyflog, amodau gwaith yn gwaethygu a chynnydd mewn cyfraniad pensiynau gan is-ganghellorion sydd wedi colli eu gafael. Yn enwedig â’u hanes hwythau gyda chyflogau a manteision wedi dwyn gwarth ar y sector addysg uwch.”