Mae plismon wedi cael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car yr heddlu a char oedd wedi cael ei ddwyn ym Manceinion.

Cafodd car ei gwrso yn ardal Pendleton ger Salford neithiwr (nos Wener, Chwefror 14).

Fe darodd y car cyntaf cyn mynd yn ei flaen a tharo ail gar yn ddiweddarach.

Cafodd un plismon ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl, yn ôl yr heddlu.

Fe ddaeth y car heddlu i stop ar ôl glanio mewn clawdd, ac fe gafodd dyn 20 oed ei arestio yn y fan a’r lle.