Mae arbenigwyr busnes yng Ngogledd Iwerddon yn rhybuddio y bydd yn rhaid i fusnesau yno lenwi ffurflenni cymhleth yn cynnwys 31 o gwestiynau i allu anfon nwyddau i Brydain o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Gallai gwaith papur gostio £55 bob tro, ac mae cwmnïau bach yn debygol o ddioddef yn ddrwg yn sgil hyn.
Mae’r asiantaeth llywodraeth i hybu economi Gogledd Iwerddon, Invest NI, yn bryderus iawn nad yw busnesau yno yn barod ar gyfer Brexit.
Fe fu swyddogion Invest NI yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Economaidd Stormont heddiw (dydd Mercher 12 Chwefror), gan ddweud bod pryderon mwyaf busnesau bach yn ymwneud â threthiant a thollau.
“Mae llawer o fusnesau heb ddim gwybodaeth flaenorol o gwblhau datganiadau tollau,” meddai Donal Durkan, pennaeth strategol Invest NI.
“Os ydyn nhw’n gwerthu cynhyrchion i’r Deyrnas Unedig fe fydd yn rhaid iddyn nhw gwblhau datganiad tollau sy’n cynnwys 31 o elfennau.”