Mae’r cyflwynydd teledu Phillip Schofield wedi datgelu ei fod yn hoyw ar Instagram.

Tra’n siarad gyda’i gyd-gyflwynydd Holly Willoughby ar raglen This Morning, trafododd ei rywioldeb yn gyhoeddus am y tro cyntaf gan ddweud nad oedd “wedi bod yn onest gyda fi fy hun”.

Mae Phillip Schofield wedi bod yn briod â’i wraig Stephanie Lowe ers 27 mlynedd ac mae ganddyn nhw ddwy ferch – Molly a Ruby.

Ymddangosodd ef a Holly Willoughby fel gwesteion ar raglen This Morning y bore yma (dydd Gwener, Chwefror 7).

Siaradodd Phillip Schofield am y gefnogaeth mae o wedi ei derbyn, gan ddweud: “Mae’n od oherwydd mae pawb dw i wedi siarad gyda wedi bod mor gefnogol, cariadus a gofalgar.

“Mae fy holl deulu wedi dweud wrtha i bod popeth yn iawn, eu bod nhw yn fy ngharu ac yn falch ohona i.”

Dywed ei fod yn teimlo “ychydig yn ysgafnach” wedi iddo wneud y cyhoeddiad er ei fod yn “ymwybodol bod hyn yn gallu achosi poen ac achosi poen meddwl”.