Ymhlith y mesurau sy’n cael eu hystyried er mwyn gwireddu’r addewid yw adeiladu awyrennau ac injanau mwy effeithlon, defnyddio tanwydd cynaladwy a chynlluniau gwrthbwyso carbon, yn ogystal â moderneiddio gofod hedfan ac ad-drefnu gweithrediadau ar lawr.
Mae’r mesurau wedi’u cyhoeddi gan Sustainable Aviation, cynghrair o fusnesau sy’n cynnwys maes awyr Heathrow, British Airways, easyJet, Airbus a Nats.
Mae’r gynghrair yn nodi y gall y sector ymdopi â chynnydd o 70% yn nifer y teithwyr erbyn 2050, tra’n lleihau allyriadau carbon net o 30,000,000 tunnell o garbon deuocsid i sero.
Mater brys
Mae Sustainable Aviation yn cydnabod fod lleihau allyriadau carbon net yn fater brys i bobol, busnesau a llywodraethau ym mhob cwr o’r byd.
“Rydym yn gwybod y bydd allyriadau hedfan yn cynyddu os na fydd camau pendant yn cael eu cymryd, a dyna pam fod cwmnïau hedfan y Deyrnas Unedig heddiw’n ymrwymo i ddileu allyriadau carbon net i sero erbyn 2050, drwy ddulliau rhyngwladol, gan gydweithio â llywodraethau o amgylch y byd a thrwy’r Cenhedloedd Unedig,” meddai’r cadeirydd Neil Robinson.
“Mae’r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa dda i ddod yn un o’r arweinwyr mewn technolegau gwyrdd yn y dyfodol.”
Yn ôl Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, “mae’r her yn erbyn newid hinsawdd yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd modern”.
Mae’n dweud bod ymrwymiad y sector “yn gam enfawr ymlaen wrth greu dyfodol mwy gwyrdd”.
Ond mae Greenpeace yn dweud bod y camau’n “symud y cyfrifoldeb i dorri allyriadau i rywun arall, yn rhywle arall, rywbryd arall”.