Fe fydd dyn 52 oed yn mynd gerbron ynadon Llanelli heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 4), wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 55 oed o Nantgaredig.

Aeth Michael O’Leary ar goll wythnos yn ôl, a chafodd yr heddlu wybod am ei ddiflaniad ddydd Llun diwethaf (Ionawr 27) ac yntau heb ddod adref o’i waith.

Mae’n dal ar goll, ac mae’r heddlu’n parhau i chwilio amdano.

Cafodd Andrew Jones, 52 oed o Gaerfyrddin, ei gyhuddo brynhawn ddoe (dydd Llun, Chwefror 3).

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am gar Nissan Navara oedd yn teithio rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 8 o’r gloch a 10 o’r gloch nos Lun (Ionawr 27).

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.