Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr yn galw am Ganolfan Ddiagnosis Canser Cynnar yng Ngogledd Cymru wedi i ffigurau ddangos fod mwy o berygl i bobol gogledd Cymru gael yr afiechyd.

Un o’r ymgyrchwyr yw Becky Williams, gweddw’r diweddar Irfon Williams, a ddaeth yn enwog am ei frwydr yn erbyn canser y coluddyn.

Ac mae galwadau gwleidyddol yn cael eu harwain gan ddau o wleidyddion Plaid Cymru, yr Aelod Cynulliad Sian Gwenllian a’r darpar ymgeisydd yn Nwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor.

Ymchwil

Yn ôl yr adroddiad mae achosion o rai mathau o ganser yn uwch yn y gogledd nag yng ngweddill Cymru:

  • Canser y pen a’r gwddf – 18% yn uwch
  • Canser y coluddyn – 18% yn uwch
  • Canser y fron – 15% yn uwch, gyda thair o’r chwe sir yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr â “graddfa sylweddol uwch.”

Mae ffigurau marwolaethau diweddar yng ngogledd Cymru yn dangos mai canser yw’r achos mwyaf o farwolaethau yn y gogledd, gyda 2,291 o 8,156 o’r marwolaethau diweddaraf yn gysylltiedig â mathau o’r clefyd.

Ymgyrch

“Mae ymchwil yn dangos fod canolfannau diagnosis cynnar yn lleihau’r amser aros am ddiagnosis o 84 diwrnod i 6 diwrnod. Mae diagnosis cynnar yn hanfodol i wella canlyniadau cleifion,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae gan Gymru rhai o’r canlyniadau gwaetha’ yn Ewrop gyda chanser y coluddyn- ac un o’r graddfeydd goroesi isa’ yn Ewrop,” meddai Becky Williams.

“Rydan ni’n gwybod bod diagnosis cynnar a thriniaeth o bob canser – nid yn unig canser y coluddyn – yn arwain at ganlyniadau gwell i’r cleifion.

“Mae diagnosis cynnar yn gwahaniaethu rhwng byw neu farw – mae mor syml â hynny.”