Fe fydd arbenigwyr ar glefydau heintus yn defnyddio £20m o arian gan Lywodraeth Prydain i geisio datblygu brechlyn yn erbyn coronavirus o fewn chwe mis.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matthew Hancock ddydd Llun (Chwefror 3) y byddai’r Llywodraeth yn buddsoddi rhagor o arian i geisio datblygu brechlyn yn erbyn y firws.
Daw’r cyhoeddiad wrth i nifer y meirw yn Tsieina godi i 361, gydag un farwolaeth yn cael ei chofnodi yn y Philipinas.
Mae’r awdurdodau iechyd yn Tsieina hefyd wedi cadarnhau 2,829 o achosion newyddion o’r firws o fewn 24 awr fore dydd Llun, gan gynyddu nifer yr achosion yn y wlad i 17,205.
Mae’r rhan helaeth o’r achosion wedi’u cofnodi yn nhalaith Hubei, gyda’r brifddinas Wuhan yn ganolbwynt y firws.
Mae nifer o wledydd, gan gynnwys Prydain, wedi cludo cannoedd o ddinasyddion o’r ardaloedd hynny.
Roedd 11 o bobl eraill wedi cyrraedd nôl yng ngwledydd Prydain nos Sul (Chwefror 2) i ymuno a’r 83 sydd mewn cwarantin yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
“Uchelgeisiol”
Fe fydd y buddsoddiad o £20m gan Lywodraeth Prydain yn cael ei roi i CEPI, grŵp o arbenigwyr rhyngwladol sy’n ceisio datblygu’r brechlyn o fewn chwech i wyth mis.
Os ydyn nhw’n llwyddiannus bydd angen rhagor o amser i brofi’r brechlyn yn ehangach a chael sêl bendith gan reoleiddwyr meddygol cyn cael ei ddosbarthu ar draws y byd.
Dywedodd prif weithredwr CEPI Dr Richard Hatchett bod yr amserlen yn “uchelgeisiol”.
Mae’r firws wedi lledu i Ganada, Awstralia, yr Almaen a Siapan, yn ogystal â’r Deyrnas Unedig.
Mae dau berson yn cael triniaeth am y firws yn y Deyrnas Unedig.