Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerefrog – York – yw un o’r ddau glaf sydd wedi cael eu cadarnhau eu bod nhw’n dioddef o’r haint coronavirus ym Mhrydain.

Mae’r ddau glaf – sy’n aelodau o’r un teulu – yn cael eu trin mewn uned arbenigol yn Newcastle.

Roedden wedi wedi mynd i aros i westy yng Nghaerefrog ddydd Mercher ac wedi cael eu cymryd i’r ysbyty y noson honno.

“Deallwn y bydd y datblygiad yma’n peri pryder ymysg ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned ehangach,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerefrog.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn ein cynghori bod y risg i’r haint gael eu drosglwyddo ar y campws yn isel.

“Yn ôl yr wybodaeth sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, ni ddaeth y myfyriwr i gysylltiad â neb ar y campws pan oedd ganddo symptomau, ond mae ymchwiliadau’n parhau er mwyn cadarnhau hyn.”

Dywed yr Athro Sharon Peacock o Iechyd Cyhoeddus Lloegr eu bod yn cysylltu â phobl sydd wedi bod mewn cyswllt agos – sy’n cael ei ddiffinio fel bod o fewn dwy metr i’r sawl a gafodd ei heintio am 15 munud – â’r ddau glaf.