Mae’r Swyddfa Dramor yn tynnu ei staff yn ôl o Tsieina yn sgil pryderon cynyddol am haint coronavirus – oriau ar ôl hedfan dwsinau o Brydeinwyr yn ôl o Wuhan.

Bydd staff hanfodol yn parhau i wneud “gwaith hanfodol” ond y mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio y gallai ei allu i gynnig help i Brydeinwyr yn y wlad fod yn “gyfyngedig”.

Mae disgwyl y bydd llywodraeth Prydain yn anfon awyren arall i Wuhan i achub dinasyddion Prydeinig os bydd angen. Mae adroddiadau hefyd fod y Swyddfa Dramor wedi gofyn i wledydd yr Undeb Ewropeaidd ychwanegu teithwyr Prydeinig at unrhyw awyrennau y byddan nhw’n eu hanfon i Wuhan.

Fe wnaeth yr Unol Daleithiau ddatgan argyfwng iechyd cyhoeddus neithiwr gyda’r Arlywydd Donald Trump yn arwyddo gorchymyn a fydd yn gwahardd mynediad dros dro i’r mwyafrif o dramorwyr sydd wedi teithio yn Tsieina dros y 14 diwrnod diwethaf.

Mae nifer y marwolaethau yn Tsieina o’r firws wedi codi i 259 erbyn hyn, gyda nifer yr achosion hysbys wedi codi o 9,962 i 11,791.

Does dim marwolaethau wedi digwydd y tu allan i Tsieina, er bod achosion wedi cael eu cadarnhau mewn o leiaf 23 o wledydd.

Mae Rwsia, Mongolia a Gogedd Corea wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau eu ffiniau â Tsieina er mwyn amddiffyn eu hunain rhag lledaeniad y firws.