Mae’r Heddlu yn Swydd Efrog wedi bod yn talu teyrnged i blismon gafodd ei daro gan lori tra’n helpu gwraig ar ôl i’w char dorri i lawr ar y draffordd.
Cafodd Pc Mark Goodlad, 41, ei gludo i’r ysbyty ar ôl y ddamwain ar draffordd yr M1 rhwng cyffordd 40 a 39, ond bu farw’n ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Swydd Efrog ei fod yn ddiwrnod trist i’r heddlu a bod Pc Mark Goodlad yn blismon ymroddedig a phrofiadol iawn oedd wedi ei ladd tra’n gwneud gwaith peryglus iawn.
Cafodd gyrrwr y lori ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.