Mae arlywyddion tri phrif sefydliad yr Undeb Ewropeaidd wedi nodi diwrnod Brexit drwy gyfleu gobaith y bydd cysylltiadau agos gyda gwledydd Prydain yn parhau.
Ond daw hynny gyda rhybudd am oblygiadau Brexit.
Mewn llythyr agored sydd wedi ei gyhoeddi mewn papurau newydd ar hyd y cyfandir, dywed arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen, arweinydd y Cyngor Ewropeaidd Charles Michel, ac arlywydd y Senedd Ewropeaidd David Sassoli y bydd y tri chorff yn gwneud yr oll allan nhw i sicrhau bod perthynas newydd yr Undeb Ewropeaidd â Phrydain yn llwyddiant.
Ond rhybuddiodd y tri bod dyfodol y bartneriaeth yn dibynnu ar benderfyniadau fydd yn cael eu cymryd yn y cyfnod o drawsnewidiad, “oherwydd mae gan bob dewis ganlyniadau”.
“I ni, ac i sawl un arall, bydd heddiw yn ddiwrnod o fyfyrio ac emosiynau cymysg,” meddai’r tri mewn llythyr agored.
“Mae ein meddyliau gyda’r rheini sydd wedi helpu i ddatblygu’r Undeb Ewropeaidd i beth ydyw heddiw.
“Byddwn ni’n meddwl am y Deyrnas Unedig a’i phobl, eu creadigrwydd, diwylliant, a’u traddodiadau, sydd wedi bod yn rhan hanfodol o’n hundeb.”