Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod coronavirus yn argyfwng rhyngwladol, wrth i’r feirws ledaenu tu hwnt i Tsieina.
Prif ofid y sefydliad yw y bydd y feirws yn lledaenu i wledydd gyda systemau iechyd gwan.
“Nid yr hyn sy’n digwydd yn Tsieina yw’r prif reswm dros y datganiad yma, ond yn hytrach beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill,” meddai pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus.
Yn ôl ffigyrau Sefydliad Iechyd y Byd, mae 7,711 o achosion coronavirus yn wedi eu cadarnhau yn Tsieina, a 1,370 o’r rheiny yn achosion difrifol.
Mae 124 o bobl wedi gwella o’r feirws ac wedi cael gadael yr ysbyty.
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd bod 98 achos mewn 18 gwlad y tu allan i Tsieina wedi eu cadarnhau.
“Hyd yn hyn, does dim marwolaethau wedi bod tu allan i Tsieina,” ,” meddai Tedros Adhanom Ghebreyesus.
“Ond er bod y nifer o achosion tu allan i Tsieina’n gymharol isel, mae’n rhaid i ni gyd weithio gyda’n gilydd i rwystro’r feirws rhag lledaenu.”