Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn yn ei 60au yn nwyrain Llundain.

Bydd Dawid Wycik yn mynd gerbron Llys Ynadon Tafwys yfory (dydd Llun, Ionawr 27).

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Clapton am 11.30 nos Wener (Ionawr 24) yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd.

Cafwyd hyd i’r dyn wedi’i anafu ac er iddo gael triniaeth gan barafeddygon, fe fu farw’n fuan wedyn.

Cafodd Dawid Wycik ei arestio yn y fan a’r lle, a’i gyhuddo heddiw (dydd Sul, Ionawr 26).

Mae lle i gredu bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd, ond doedden nhw ddim yn perthyn, yn ôl Heddlu Llundain.

Dydy’r dyn fu farw ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.