Mae’r aelod seneddol Albanaidd Mhairi Black yn awgrymu’r posibilrwydd o gynnal pleidlais symbolaidd pe na bai’r Alban yn cael yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth.
Daw ei sylwadau yn y Sunday Times, wrth i’r prif weinidog Nicola Sturgeon amlinellu’r camau nesaf yn y broses.
Ond dydy hi ddim yn cefnogi cynnal pleidlais symbolaidd fel y mae Catalwnia wedi’i wneud.
“Fe all fod yna werth mewn refferendwm ymgynghorol oherwydd mae cwestiwn yr Alban yn gymhleth,” meddai Mhairi Black.
“Mae safbwynt presennol Llywodraeth Prydain yn wan ac yn anghynaladwy ac os yw’r pum mlynedd diwethaf yn profi unrhyw beth, yna mae’n profi nad oes modd darogan yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan.”
Mae hi’n dweud y dylid “cadw at y rheolau” pe bai refferendwm yn cael ei gynnal, ac y byddai refferendwm swyddogol yn denu cefnogaeth ryngwladol.