Mae Golygydd Affrica’r BBC wedi datgelu ei fod yn gadael y swydd oherwydd ei fod yn dioddef gydag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).

Daw diagnosis Fergal Keane wedi “sawl degawd o weithio mewn llefydd peryglus o amgylch y byd,” meddai pennaeth casglu newyddion y BBC, Jonathan Munro.

Mae’n debyg ei fod wedi bod yn dioddef â’r cyflwr “am sawl blwyddyn”.

Ymunodd Fergal Keane â’r BBC yn 1989 fel gohebydd Gogledd Iwerddon cyn gweithio fel gohebydd De Affrica ac Asia.

Derbyniodd OBE am ei wasanaeth i newyddiaduriaeth yn 1996 yn ogystal â gwobr deledu Amnesty yn 1994 am ymchwilio i hil-laddiad yn Rwanda.

Dywed Jonathan Munro fod y newyddiadurwr wedi derbyn cefnogaeth gan “ffrindiau a chydweithwyr” yn ogystal â staff meddygol.

“Mae ef nawr yn teimlo ei fod angen newid ei swydd er mwyn ei helpu i wella.

“Mae’n beth dewr iawn ei fod yn barod i siarad yn agored am anhwylder straen ôl-drawmatig.”