Am y tro cyntaf erioed mae un o gynghorau’r Alban wedi dewis gwneud Gaeleg yn brif iaith ysgolion.
O flwyddyn nesaf ymlaen mi fydd plant yr Ynys Hir (Outer Hebrides) yn cael eu cyfeirio’n awtomatig at addysg cyfrwng Gaeleg.
Bydd hynny’n golygu bod yn rhaid i rieni dynnu eu plant o’r drefn yma os ydyn nhw am iddyn nhw gael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.
Cyngor Comhairle nan Eilean Siar (yr Ynys Hir) sydd wedi bwrw ati â’r polisi yma, ac atgyfnerthu’r iaith yw eu nod.
Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd 52% o boblogaeth – tair oed neu’n hŷn – yr Ynys Hir yn medru’r iaith. Comhairle nan Eilean Siâr yw’r unig gyngor lleol yn yr Alban sydd ag enw uniaith Gaeleg.