Mae myfyrwyr sydd yn defnyddio technoleg yn rhy aml yn pryderu’n fwy am brofion, yn ôl astudiaeth ddiweddar. 

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod myfyrwyr sy’n gor-ddefnyddio technoleg yn llai parod i astudio, a bod gor-ddefnydd technoleg yn dwysáu teimladau o unigrwydd. 

Roedd 285 myfyriwr – a oedd ynghlwm â chyrsiau meddygol – yn rhan o’r astudiaeth,  a phrifysgolion Abertawe a Milan oedd yn gyfrifol am y gwaith.  

Dywedodd chwarter o fyfyrwyr eu bod yn treulio dros bedwar awr y dydd ar-lein, ac roedd y gweddill yn treulio rhwng awr a thair awr.

 “Caeth i’r we”

“Mae’r canlyniadau yma’n awgrymu bod myfyrwyr sydd â lefelau uchel o gaethiwed i’r we yn wynebu’r risg o fod yn llai parod i astudio,” meddai’r Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe.   

“Felly maen nhw’n gwneud yn waeth yn academaidd. Cyn digideiddio gofodau academaidd dylem gymryd saib a holi os ydi hyn yn mynd i wireddu’r canlyniadau rydym eu heisiau.”