Mae gan Lywodraeth “nifer o opsiynau” y gallai ei ddefnyddio i wthio am ail refferendwm yn ôl gweinidog Cysylltiadau Cyfansoddiadol Holyrood, Mike Russell.
Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson wrthod cais Nicola Sturgeon i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.
Honnai Boris Johnson y byddai caniatáu pleidlais o’r fath yn arwain at “farweidd-dra gwleidyddol” yn yr Alban.
Ond mae Mike Russell wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o anwybyddu dymuniadau’r pleidleiswyr Albanaidd wedi i’r SNP ennill 47 o’r 59 sedd yn yr Alban mewn ymgyrch oedd wedi ei ffocysu ar gynnal ail refferendwm.
Wrth siarad ar raglen Good Morning BBC Radio Scotland, dywed Mike Russell: “Dw i’n meddwl y gallwch chi un ai cael democratiaeth neu unbennaeth, ond allwch chi ddim cael y ddau.”